180Terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlordLL+C
(1)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
(a)ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
(b)os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
(3)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os[F1—
(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu
(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—
(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a
(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.]
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 180(3) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 8(2), 19(3)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 180 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2