RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlord

F1177Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau pellach o dan adran 173

(1)

Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo—

(a)

landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (“yr hysbysiad cyntaf”), a

(b)

y landlord wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl wedi hynny (gweler adran 180(3)).

(2)

Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cyntaf ei dynnu’n ôl, ac eithrio yn unol ag is-adran (3).

(3)

Caiff y landlord roi un hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cyntaf.

(4)

Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)

landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173, a

(b)

y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 wedi dod i ben heb i’r landlord fod wedi gwneud hawliad.

(5)

Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â diwrnod olaf y cyfnod y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad cyn iddo ddod i ben (gweler adran 179(1)(b)).

(6)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.