Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Valid from 01/12/2022

[F1177Cyfyngiadau ar roi hysbysiadau pellach o dan adran 173LL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo—

(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173 (“yr hysbysiad cyntaf”), a

(b)y landlord wedi tynnu’r hysbysiad yn ôl wedi hynny (gweler adran 180(3)).

(2)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd yr hysbysiad cyntaf ei dynnu’n ôl, ac eithrio yn unol ag is-adran (3).

(3)Caiff y landlord roi un hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad cyntaf.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo—

(a)landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad contract o dan adran 173, a

(b)y cyfnod ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 wedi dod i ben heb i’r landlord fod wedi gwneud hawliad.

(5)Ni chaiff y landlord roi hysbysiad arall o dan adran 173 i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â diwrnod olaf y cyfnod y gallai’r landlord fod wedi gwneud yr hawliad cyn iddo ddod i ben (gweler adran 179(1)(b)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)