[F1174AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8ALL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—
(a)yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a
(b)o fewn Atodlen 8A.]
Diwygiadau Testunol
F1A. 174A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), aau. 1(3), 19(3)