RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlord
174Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
(1)
Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na F1chwe mis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
F2(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—
(a)
nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu
(b)
sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).