Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Valid from 01/12/2022

174Y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na [F1chwe mis] ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

[F2(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 174 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)