RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

Contractau a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddynt

17Contract a wneir â landlordiaid preifat neu a fabwysiedir ganddynt

(1)

Mae contract meddiannaeth a wneir â landlord preifat yn gontract safonol oni bai bod y landlord, cyn neu ar adeg gwneud y contract, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n datgan bod y contract yn gontract diogel.

(2)

Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract diogel.

(3)

Os yw landlord preifat yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau i fod yn gontract safonol.