RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 4TERFYNU CONTRACTAU DIOGEL (HYSBYSIAD DEILIAD Y CONTRACT)
I1167Terfynu contract yn dilyn hysbysiad deiliad y contract
1
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, neu cyn hynny, daw’r contract i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
2
Os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond mewn cysylltiad â’r hysbysiad, daw’r contract i ben—
a
ar y diwrnod y mae deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd, neu
b
os gwneir gorchymyn adennill meddiant, ar y dyddiad a bennir yn unol ag adran 206.
3
Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith os, cyn i’r contract ddod i ben—
a
yw deiliad y contract yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i’r landlord, a
b
nad yw’r landlord yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.