RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 4TERFYNU CONTRACTAU DIOGEL (HYSBYSIAD DEILIAD Y CONTRACT)

165Adennill meddiant

(1)

Os yw deiliad y contract yn methu ag ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 163, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)

Mae adran 212 yn darparu bod rhaid i’r llys, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract F1diogel.