16Contractau safonol rhagarweiniolLL+C
(1)Mae contract meddiannaeth sy’n gontract safonol am fod yr eithriad cyntaf yn adran 11 neu 12 yn gymwys ac am ei fod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contract meddiannaeth newydd a wneir â landlord cymunedol)—
(a)yn gontract safonol cyfnodol yn ystod y cyfnod rhagarweiniol, a
(b)os yw’n bodoli yn union cyn diwedd y cyfnod hwnnw—
(i)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a
(ii)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(2)Ond nid yw is-adran (1)(b) yn gymwys os yw cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd paragraff 1(6) o Atodlen 4 (landlord preifat yn dod yn landlord o dan y contract).
(3)Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau rhagarweiniol ac ynghylch telerau contract diogel sy’n dod i fodolaeth yn sgil diwedd cyfnod rhagarweiniol.
(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol rhagarweiniol” yw contract—
(a)sydd o fewn is-adran (1), a
(b)nad yw’r cyfnod rhagarweiniol sy’n berthnasol iddo wedi dod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 16 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2