RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddynt

16Contractau safonol rhagarweiniol

(1)

Mae contract meddiannaeth sy’n gontract safonol am fod yr eithriad cyntaf yn adran 11 neu 12 yn gymwys ac am ei fod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contract meddiannaeth newydd a wneir â landlord cymunedol)—

(a)

yn gontract safonol cyfnodol yn ystod y cyfnod rhagarweiniol, a

(b)

os yw’n bodoli yn union cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(i)

yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, a

(ii)

yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(2)

Ond nid yw is-adran (1)(b) yn gymwys os yw cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd paragraff 1(6) o Atodlen 4 (landlord preifat yn dod yn landlord o dan y contract).

(3)

Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau rhagarweiniol ac ynghylch telerau contract diogel sy’n dod i fodolaeth yn sgil diwedd cyfnod rhagarweiniol.

(4)

Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol rhagarweiniol” yw contract—

(a)

sydd o fewn is-adran (1), a

(b)

nad yw’r cyfnod rhagarweiniol sy’n berthnasol iddo wedi dod i ben.