RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 3TERFYNU POB CONTRACT MEDDIANNAETH (HAWLIAD MEDDIANT GAN LANDLORD)
Tor contract
159Cyfyngiadau ar adran 157
(1)
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
(2)
Caiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod yr adran honno wedi ei thorri.
(3)
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri unrhyw deler arall yn y contract cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod y teler hwnnw wedi ei dorri.
(4)
Yn y naill achos a’r llall, ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
(5)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.