RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 2TERFYNU ETC. HEB HAWLIAD MEDDIANT(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
155Marwolaeth unig ddeiliad contract
(1)
Os yw unig ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn marw, daw’r contract i ben—
(a)
mis ar ôl marwolaeth deiliad y contract, neu
(b)
os yw’n gynharach, pan fydd y personau awdurdodedig yn hysbysu’r landlord am y farwolaeth.
(2)
Y personau awdurdodedig yw—
(a)
cynrychiolwyr personol deiliad y contract, neu
(b)
y rheini sydd â chaniatâd i feddiannu’r annedd sy’n 18 oed a hŷn (os oes rhai) yn gweithredu gyda’i gilydd.
(3)
Ni ddaw’r contract i ben os oes un neu ragor o bersonau yn gymwys i olynu deiliad y contract o dan adran 74.
(4)
Ni ddaw’r contract i ben os, ar farwolaeth deiliad y contract, oes gorchymyn eiddo teuluol yn effeithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson arall.
(5)
Os, ar ôl marwolaeth deiliad y contract, yw’r gorchymyn eiddo teuluol yn peidio â chael effaith ac os nad oes unrhyw berson yn gymwys i olynu deiliad y contract, daw’r contract i ben—
(a)
pan fydd y gorchymyn yn peidio â chael effaith, neu
(b)
os yw’n hwyrach, pan fyddai’r contract yn dod i ben o dan is-adran (1).
(6)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1) (trosglwyddo ar farwolaeth unig ddeiliad contract); mae adran 20 yn darparu—
(a)
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.