RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 2TERFYNU ETC. HEB HAWLIAD MEDDIANT(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
152Deiliad y contract yn terfynu’n fuan
(1)
Caiff deiliad y contract derfynu’r contract meddiannaeth unrhyw bryd cyn y cynharaf o’r canlynol—
(a)
y landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) i ddeiliad y contract, neu
(b)
y dyddiad meddiannu.
(2)
Er mwyn terfynu’r contract o dan is-adran (1), rhaid i ddeiliad y contract roi hysbysiad i’r landlord yn datgan ei fod yn terfynu’r contract.
(3)
Pan fydd yn rhoi’r hysbysiad i’r landlord, bydd deiliad y contract—
(a)
yn peidio â bod ag unrhyw atebolrwydd o dan y contract, a
(b)
yn dod â’r hawl i gael unrhyw flaendal, rhent neu gydnabyddiaeth arall a roddwyd i’r landlord yn unol â’r contract wedi’i ddychwelyd iddo.
(4)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.