RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 1LL+CTROSOLWG A DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL

Terfynu a ganiateir, hawliadau meddiant a hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiantLL+C

150Hysbysiadau adennill meddiantLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad adennill meddiant y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad contract [F1o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn] cyn gwneud hawliad meddiant [F2

(a)adran 159 (mewn perthynas â thor contract gan ddeiliad contract);

(b)adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad);

(c)adran 166, 171 neu 192 (mewn perthynas â hysbysiad deiliad y contract);

(d)adran 182 neu 188 (mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol).]

(2)Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â nodi’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad)—

(a)datgan bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant,

(b)rhoi manylion y sail, ac

(c)datgan ar ôl pa ddyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 150 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 150 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2