RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 1TROSOLWG A DARPARIAETHAU RHAGARWEINIOL

Terfynu a ganiateir, hawliadau meddiant a hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol ildio meddiant

150Hysbysiadau adennill meddiant

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad adennill meddiant y mae’n ofynnol i landlord ei roi i ddeiliad contract F1o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn cyn gwneud hawliad meddiant F2

(a)

adran 159 (mewn perthynas â thor contract gan ddeiliad contract);

(b)

adran 161 (mewn perthynas â seiliau rheoli ystad);

(c)

adran 166, 171 neu 192 (mewn perthynas â hysbysiad deiliad y contract);

(d)

adran 182 neu 188 (mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent difrifol o dan gontract safonol).

(2)

Rhaid i’r hysbysiad (yn ogystal â nodi’r sail ar gyfer gwneud yr hawliad)—

(a)

datgan bwriad y landlord i wneud hawliad meddiant,

(b)

rhoi manylion y sail, ac

(c)

datgan ar ôl pa ddyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant.

(3)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.