xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 2LL+CNATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddyntLL+C

15Hysbysiad o’r hawl i benderfynu parhau ar gontract safonol cyfnod penodolLL+C

(1)O leiaf fis cyn i landlord cymunedol ddod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, rhaid i’r landlord cymunedol roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)hysbysu deiliad y contract o’i hawl o dan adran 12(8)(b) i benderfynu y dylai‘r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid iddo wneud y penderfyniad, a

(b)egluro sut y bydd adran 12 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 15 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2