149Hawliadau meddiantLL+C
(1)Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth wneud hawliad i’r llys i adennill meddiant o’r annedd oddi wrth ddeiliad y contract (“hawliad meddiant”) ond yn yr amgylchiadau a amlinellir ym Mhenodau 3 i 5 a 7.
(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 149 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 149 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2