xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
(1)Ni chaniateir terfynu contract meddiannaeth ond yn unol ag—
(a)telerau sylfaenol y contract sy’n ymgorffori darpariaethau sylfaenol a ddynodir yn y Rhan hon neu delerau eraill a gynhwysir yn y contract yn unol â’r Rhan hon, neu
(b)deddfiad.
(2)Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar—
(a)unrhyw hawl sydd gan y landlord neu ddeiliad y contract i ddad-wneud y contract, na
(b)gweithrediad cyfraith llesteirio.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 148 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2