146Gwahardd dros dro: canllawiauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan adran 145 gan landlordiaid.
(2)Wrth arfer y swyddogaethau hynny, rhaid i landlordiaid roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 146 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 146(1) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I3A. 146(1) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I4A. 146(2) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2