RHAN 8CONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH
143Contract safonol â chymorth a llety â chymorth
(1)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol â chymorth” yw contract safonol sy’n perthyn i lety â chymorth.
(2)
At ddibenion y Ddeddf hon mae llety yn “llety â chymorth”—
(a)
os yw’n cael ei ddarparu gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,
(b)
os yw’r landlord neu’r elusen (neu berson sy’n gweithredu ar ran y landlord neu’r elusen) yn darparu gwasanaethau cymorth i berson sydd â hawl i feddiannu’r llety, ac
(c)
os oes cysylltiad rhwng darparu’r llety a darparu’r gwasanaethau cymorth.
(3)
Nid yw llety mewn sefydliad gofal (o fewn ystyr paragraff 4 o Atodlen 2) yn llety â chymorth.
(4)
Mae “gwasanaethau cymorth” yn cynnwys—
(a)
cymorth i reoli neu oresgyn dibyniaeth,
(b)
cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu lety arall, ac
(c)
rhoi cymorth i rywun sy’n ei chael hi’n anodd byw yn annibynnol oherwydd oed, afiechyd, anabledd neu unrhyw reswm arall.
(5)
Mae “cymorth” yn cynnwys darparu cyngor, hyfforddiant, arweiniad a chwnsela.