Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 7 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)
(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)adran 134(1)(b) a (2) a’r adran hon,
(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),
(f)adran 149 (hawliadau meddiant),
(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
F1(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(j)F1...a
[F2(k)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol).]
(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
(a)oni bai o ganlyniad i’r amrywiad—
(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F3... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnod penodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodolF4...; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Diwygiadau Testunol
F1A. 135(2)(i)(j) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 12(a)(i)
F2A. 135(2)(k) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 12(a)(ii)
F3Geiriau yn a. 135(3)(a)(ii) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 2(4)
F4Geiriau yn a. 135(6) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 12(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 135 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2