RHAN 7DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU

135Cyfyngiad ar amrywio

(1)

Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).

(2)

Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)

adran 134(1)(b) a (2) a’r adran hon,

(b)

adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(c)

adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(d)

adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(e)

adran 148 (terfynu a ganiateir),

(f)

adran 149 (hawliadau meddiant),

(g)

adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(h)

adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

F1(i)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(j)

F1...a

F2(k)

Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol).

(3)

Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—

(a)

oni bai o ganlyniad i’r amrywiad—

(i)

y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu

(ii)

na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F3... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;

(b)

pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)

Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnod penodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).

(5)

Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(6)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodolF4...; mae adran 20 yn darparu—

(a)

bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)

na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.