RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID
PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.
Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddynt
13Hysbysiad o gontract safonol
(1)
Mae hysbysiad o dan yr adran hon yn hysbysiad—
(a)
sy’n pennu’r paragraff o Atodlen 3, a’r disgrifiad o gontract meddiannaeth a nodir yn y paragraff hwnnw, y mae’r landlord yn dibynnu arno, a
(b)
sy’n datgan bod y contract yn gontract safonol.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad hefyd hysbysu deiliad y contract o’i hawl i wneud cais am adolygiad o dan adran 14, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.