RHAN 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU
127Cyfyngiad ar amrywio
(1)
Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
(2)
Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)
adran 122(1)(b) a (2) a’r adran hon,
(b)
adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) F1...,
(c)
adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(d)
adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(e)
adran 148 (terfynu a ganiateir),
(f)
adran 149 (hawliadau meddiant),
(g)
adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
(h)
adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
F2(i)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(j)
paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol) F3, a
(k)
Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad y landlord o dan adran 173: torri rhwymedigaethau statudol)
(3)
Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
(a)
oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—
(i)
y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
(ii)
na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F4... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
(b)
pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
(4)
Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
(5)
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(6)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—
(a)
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.