RHAN 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU
126Amrywio telerau eraill gan y landlord: y weithdrefn hysbysu
(1)
Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd y landlord, oni bai bod deiliad y contract yn cydsynio i amrywio’r contract o dan adran 125, yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 (hysbysiad y landlord).
(2)
Ond ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan is-adran (1) ar unrhyw adeg pan fydd y landlord yn cael ei rwystro rhag rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract) gan adran 175 (ni chaniateir rhoi hysbysiad yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), adran 176 (torri’r gofynion rhoi gwybodaeth) neu adran 177 (torri gofynion sicrwydd neu flaendal).
(3)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—
(a)
pennu natur yr amrywiad a’r dyddiad y bydd yr amrywiad yn cael effaith, a
(b)
hysbysu deiliad y contract bod yr hysbysiad hefyd yn cael effaith fel hysbysiad o dan adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract).
(4)
Ni chaiff y dyddiad a bennir fel y dyddiad y bydd yr amrywiad yn cael effaith fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(5)
Os nad yw deiliad y contract yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig i’r amrywiad ar y dyddiad y bydd yn cael effaith neu cyn hynny, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 178 (hysbysiad y landlord).
(6)
Os yw’r landlord yn bodloni gofynion yr adran hon, mae’r landlord i’w drin at ddibenion gwneud yr hawliad meddiant fel pe bai wedi rhoi hysbysiad i derfynu’r contract o dan adran 173 (ac mae adran 179(1)(a) i’w darllen fel pe bai’n cyfeirio at y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad yn unol ag is-adran (3)(a) o’r adran hon).
(7)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol nad ydynt yn ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract).