123Amrywio’r rhentLL+C
(1)Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract safonol cyfnodol drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(2)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.
(3)Yn ddarostyngedig i hynny—
(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a
(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol y mae rhent yn daladwy oddi tano [F1, ac eithrio contract safonol cyfnodol sy’n denantiaeth cymdeithas dai].
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 123(4) wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/799), rhlau. 1, 5(3) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 14)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 123 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2