RHAN 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

PENNOD 2GWAHARDD AM GYFNODAU PENODEDIG

121Gwahardd deiliad contract o annedd am gyfnodau penodedig

(1)

Caiff contract safonol cyfnodol ddarparu nad oes hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref yn ystod y cyfryw gyfnodau a bennir yn y contract.

(2)

Caiff y contract bennu cyfnodau at ddibenion is-adran (1) drwy gyfeirio at unrhyw faterion y mae’n rhesymol i ddeiliad y contract eu canfod (yn ogystal â thrwy gyfeirio at ddyddiadau penodedig).

F1(3)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—

(a)

darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;

(b)

darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;

(c)

newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;

(d)

pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;

(e)

gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnodol.