RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddynt

12Contract a fabwysiedir gan landlord cymunedol

(1)

Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract diogel sydd eisoes yn bodoli, mae’r contract yn parhau fel contract diogel.

(2)

Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli oherwydd trosglwyddiad o dan adran 62 neu 66 (trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau landlord o dan gontract isfeddiannaeth), mae’r contract yn parhau fel contract safonol.

(3)

Os yw landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol sydd eisoes yn bodoli, a hynny am unrhyw reswm arall, mae’r contract sydd eisoes yn bodoli—

(a)

yn dod i ben pan fydd y landlord cymunedol yn dod yn landlord, a

(b)

yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r contract sydd eisoes yn bodoli ddod i ben,

oni bai bod un o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys.

(4)

Mae’r eithriad cyntaf yn gymwys—

(a)

os yw’r contract o fewn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a fabwysiedir gan landlord cymunedol),

(b)

os yw’r landlord cymunedol, cyn iddo ddod yn landlord neu ar yr adeg y daw’n landlord, yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 13, ac

(c)

os nad oes unrhyw eithriad arall yn gymwys.

(5)

Mae’r ail eithriad yn gymwys os caiff y contract ei wneud o ganlyniad i orchymyn o dan adran 116 (contract safonol ymddygiad gwaharddedig).

(6)

Mae’r trydydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn bodoli yn sgil adran 184(2) neu os yw o fewn adran 184(6) (contractau ar ddiwedd cyfnod penodol).

(7)

Mae’r pedwerydd eithriad yn gymwys os yw’r contract yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n bodoli yn sgil adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig).

(8)

Mae’r pumed eithriad yn gymwys—

(a)

os yw’r contract yn gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, a

(b)

os yw deiliad y contract, cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno, yn penderfynu y dylai’r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol (mae adran 15 yn gwneud darpariaeth bellach am benderfyniadau o’r fath).

(9)

Mae adran 16 yn gwneud darpariaeth bellach am gontractau y mae’r eithriad cyntaf yn gymwys iddynt am fod y contract o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 (contractau safonol rhagarweiniol).