118Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arallLL+C
(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.
(2)Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson—
(a)sydd, cyn y trosglwyddiad, yn ddeiliad contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol, a
(b)a fydd, yn union cyn y trosglwyddiad, yn peidio â bod yn ddeiliad y contract o dan y contract a grybwyllir ym mharagraff (a).
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 118 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2