117Trosi i gontract diogelLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae contract safonol cyfnodol a ddaeth i fodolaeth yn sgil gorchymyn o dan adran 116 ac sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod prawf—
(a)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod prawf, a
(b)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r cyfnod prawf yn dod i ben oherwydd paragraff 3(9) o Atodlen 7.
(3)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contract diogel sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod prawf.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 117 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2