RHAN 5DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL
PENNOD 4DELIO
Trosglwyddo
114Trosglwyddo i olynydd posibl
(1)
Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.
(2)
Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i—
(a)
olynydd posibl, neu
(b)
os oes dau neu ragor o olynwyr posibl, yr holl olynwyr posibl sy’n dymuno cael eu cynnwys yn y trosglwyddiad.
(3)
Os un deiliad contract yn unig sydd, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu deiliad y contract pe byddai deiliad y contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad.
(4)
Os oes cyd-ddeiliaid contract, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu cyd-ddeiliad contract—
(a)
pe byddai’r cyd-ddeiliad contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad, a
(b)
ar adeg y farwolaeth, os cyd-ddeiliad y contract oedd unig ddeiliad y contract.
(5)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.