Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

109Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Os yw contract diogel yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad, rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth fel y’i hamrywiwyd,

oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6).

(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 109 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2