107Amrywio telerau atodol a thelerau ychwanegol
(1)Caniateir amrywio unrhyw un o delerau atodol neu delerau ychwanegol contract diogel (yn ddarostyngedig i adran 108)—
(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
(b)wrth i’r landlord roi hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract.
(2)Cyn rhoi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord roi hysbysiad rhagarweiniol i ddeiliad y contract—
(a)yn hysbysu deiliad y contract fod y landlord yn bwriadu rhoi hysbysiad amrywio,
(b)yn nodi’r amrywiad arfaethedig ac yn hysbysu deiliad y contract o’i natur a’i effaith, ac
(c)yn gwahodd deiliad y contract i roi sylwadau ar yr amrywiad arfaethedig o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(3)Rhaid i’r cyfnod a bennir roi cyfle rhesymol i ddeiliad y contract wneud sylwadau.
(4)Rhaid i’r hysbysiad amrywio bennu’r amrywiad y mae’n rhoi effaith iddo a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith.
(5)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith fod yn llai na mis.
(6)Wrth roi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord hefyd roi i ddeiliad y contract unrhyw wybodaeth y mae’r landlord yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn hysbysu deiliad y contract o natur ac effaith yr amrywiad.
(7)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.