RHAN 5DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL

PENNOD 1TROSOLWG

102Trosolwg o’r Rhan

(1)

Nid yw Penodau 1 i 5 o’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau diogel, ac maent yn ymwneud ag—

(a)

amrywio contractau diogel,

(b)

cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl,

(c)

delio (hynny yw, cymryd lletywr a throsglwyddo’r contract), a

(d)

arddodi contractau safonol ymddygiad gwaharddedig (pan fo’r landlord yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig).

(2)

Mae Pennod 6 yn cynnwys darpariaeth sylfaenol ynghylch trosglwyddo contract diogel i berson sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall; mae’r ddarpariaeth sylfaenol hon yn gymwys i gontractau diogel y mae’r landlord oddi tanynt yn landlord cymunedol.