Valid from 01/12/2022
101Gwast ac ymddwyn fel tenantLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Nid yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn atebol am unrhyw wast o ran yr annedd.
(2)Nid yw’r rheol gyfreithiol bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio annedd sydd ar les (yn yr ystyr sydd i “tenant-like user” yn ôl y gyfraith gyffredin) yn gymwys i ddeiliad contract os yw’r denantiaeth yn gontract meddiannaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)