Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

1Contractau meddiannaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r Ddeddf hon (yn Rhan 2) yn darparu—

(a)bod y rhan fwyaf o unigolion sy’n rhentu eu cartrefi o dan denantiaeth neu o dan drwydded, a’u landlordiaid, yn gwneud contract â’i gilydd a elwir yn gontract meddiannaeth (ac yn y Ddeddf hon cyfeirir at unigolion o’r fath fel “deiliaid contract”; gweler adran 7);

(b)bod dau fath o gontract meddiannaeth, sef—

(i)contractau diogel, a

(ii)contractau safonol;

(c)bod dau fath o gontract safonol, sef—

(i)contractau safonol cyfnod penodol, a

(ii)contractau safonol cyfnodol,

ac mae’r ddau fath o gontract safonol yn wahanol i’w gilydd o ran eu hamrywio, eu trosglwyddo a’u terfynu.

(2)Mae pob math o gontract meddiannaeth (a phob math o gontract safonol) yn rhoi gwahanol hawliau ac yn gosod gwahanol rwymedigaethau ar ddeiliad y contract a’r landlord; mae contract diogel yn rhoi mwy o sicrwydd i ddeiliad y contract o ran meddiannaeth na chontract safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2