xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1ATODLEN 9CLL+CCONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL A GAIFF GYNNWYS CYMAL TERFYNU’R LANDLORD HYD YN OED OS YDYNT WEDI EU GWNEUD AM GYFNOD LLAI NA DWY FLYNEDD

Diwygiadau Testunol

Llety dros dro: llety yn ystod gwaithLL+C

10(1)Contract safonol—LL+C

(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,

(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac

(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.

(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.]

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9C para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2