[F1[F25C.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C
(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b)y mae rheoliad 36 o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (yn ôl y digwydd) (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy (gofyniad i ddarparu neu arddangos adroddiad ar ddiogelwch etc. gosodiadau nwy).
(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae landlord nad yw wedi cydymffurfio â rheoliad 36(6) neu (7) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy i’w drin fel pe bai yn cydymffurfio â’r ddarpariaeth o dan sylw ar unrhyw adeg pan fo—
(a)y landlord wedi sicrhau y rhoddwyd copi o gofnod diogelwch nwy i ddeiliad y contract, neu (yn ôl y digwydd) bod copi ohono wedi ei arddangos mewn lle amlwg yn yr annedd, a
(b)bod y cofnod yn ddilys.
(4)At ddibenion is-baragraff (3), mae cofnod diogelwch nwy yn ddilys hyd ddiwedd y cyfnod y mae’n ofynnol unwaith eto i’r cyfarpar neu’r ffliw y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef fod yn ddarostyngedig i wiriad diogelwch o dan y Rheoliadau Diogelwch Nwy.
(5)Yn y paragraff hwn—
ystyr “cofnod diogelwch nwy” (“gas safety record”) yw cofnod a wnaed yn unol â gofynion rheoliad 36(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy;
ystyr “gwiriad diogelwch” (“check for safety”) yw gwiriad diogelwch a gynhelir yn unol â rheoliad 36(3) o’r Rheoliadau Diogelwch Nwy;
ystyr “Rheoliadau Diogelwch Nwy” (“Gas Safety Regulations”) yw Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998 (O.S. 1998/2451).]]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 9A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 2
F2Atod. 9A para. 5A-5C ac croes-bennawd wedi ei fewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 (O.S. 2022/143), rhlau. 1, 4 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9A para. 5C mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2