Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

This section has no associated Explanatory Notes

[F1[F25B.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 6 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—

(a)pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 6(6) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â chael adroddiad ar gyflwr trydanol, neu fethu â rhoi adroddiad o’r fath neu gadarnhad ysgrifenedig o waith trydanol arall penodol i ddeiliad y contract), a

(b)pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.]]