xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

[F1ATODLEN 9ALL+CContractau safonol: CYFYNGIADAU AR ROI HYSBYSIAD O DAN ADRAN 173, o dan adran 186, AC O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD

Diwygiadau Testunol

RHAN 1LL+CY CYFYNGIADAU

[F2Methu â sicrhau bod larymau mwg a larymau carbon monocsid sy’n gweithio wedi eu gosodLL+C

5A.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C

(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a

(b)y mae rheoliad 5 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“y Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi”) yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg—

(a)pan fo’r annedd yn cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd rheoliad 5(3) o’r Rheoliadau Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi (methu â sicrhau bod larymau mwg sy’n gweithio ac, mewn rhai amgylchiadau, larymau carbon monocsid sy’n gweithio, wedi eu gosod mewn annedd), a

(b)pan fo, o ganlyniad, yn ofynnol i’r landlord o dan Ran 4 o’r Ddeddf hon gymryd camau i stopio’r annedd rhag cael ei thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi yn rhinwedd y rheoliad hwnnw.]]

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9A para. 5A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2