[F15(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—LL+C
(a)taliad gwaharddedig (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) wedi ei wneud mewn perthynas â’r contract fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno, a
(b)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—
(a)blaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
(b)methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
(3)Wrth benderfynu at ddibenion y paragraff hwn a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
(a)taliad rhent o dan y contract;
(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 9A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9A para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2