Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Torri gofynion sicrwydd a blaendalLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

[F14(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano mewn cysylltiad â’r contract ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.

(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys oni bai—

(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu

(b)bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.

(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.

(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).

(5)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os nad yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.]

Diwygiadau Testunol