F1ATODLEN 9AContractau safonol: CYFYNGIADAU AR ROI HYSBYSIAD O DAN ADRAN 173, o dan adran 186, AC O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD
RHAN 1Y CYFYNGIADAU
F2Methu â darparu tystysgrif perfformiad ynni ddilys
3A.
(1)
Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a)
a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b)
sy’n ymwneud ag annedd y mae rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA (y gofyniad i roi tystysgrif perfformiad ynni ddilys i’r tenant) yn gymwys mewn perthynas â hi.
(2)
Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA.
(3)
At ddibenion y paragraff hwn, nid oes gwahaniaeth pryd y rhoddwyd y dystysgrif perfformiad ynni ddilys (ac nid oes dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif perfformiad ynni newydd gael ei rhoi i ddeiliad contract pan fo tystysgrif a roddwyd i’r deiliad contract hwnnw i gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw yn peidio â bod yn ddilys o dan y Rheoliadau PYA).
(4)
Yn y paragraff hwn—
ystyr “y Rheoliadau PYA” (“the EPB Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/3118);
mae “tystysgrif perfformiad ynni ddilys” (“valid energy performance certificate”) i’w dehongli yn unol â’r Rheoliadau PYA.