[F1[F23A.(1)Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—LL+C
(a)a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b)sy’n ymwneud ag annedd y mae rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA (y gofyniad i roi tystysgrif perfformiad ynni ddilys i’r tenant) yn gymwys mewn perthynas â hi.
(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan nad yw’r landlord wedi cydymffurfio â rheoliad 6(5) o’r Rheoliadau PYA.
(3)At ddibenion y paragraff hwn, nid oes gwahaniaeth pryd y rhoddwyd y dystysgrif perfformiad ynni ddilys (ac nid oes dim yn y paragraff hwn yn ei gwneud yn ofynnol i dystysgrif perfformiad ynni newydd gael ei rhoi i ddeiliad contract pan fo tystysgrif a roddwyd i’r deiliad contract hwnnw i gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw yn peidio â bod yn ddilys o dan y Rheoliadau PYA).
(4)Yn y paragraff hwn—
ystyr “y Rheoliadau PYA” (“the EPB Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/3118);
mae “tystysgrif perfformiad ynni ddilys” (“valid energy performance certificate”) i’w dehongli yn unol â’r Rheoliadau PYA.]]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 9A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 2
F2Atod. 9A para. 3A ac croes-bennawd wedi ei fewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 9A) 2022 (O.S. 2022/143), rhlau. 1, 3 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 8)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9A para. 3A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2