F1ATODLEN 9AContractau safonol: CYFYNGIADAU AR ROI HYSBYSIAD O DAN ADRAN 173, o dan adran 186, AC O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD
RHAN 1Y CYFYNGIADAU
Cyfyngiad o chwe mis yn dilyn methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod a bennir yn adran 31
2
F2(1)
Mae’r paragraff hwn wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol—
(a)
a grybwyllir ym mharagraff 7(1), a
(b)
sy’n ymgorffori adran 31.
F3(2)
Ni chaiff landlord sydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) roi hysbysiad yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.