(a gyflwynir gan adrannau 176, 186A a 197)
[F1ATODLEN 9ALL+CContractau safonol: CYFYNGIADAU AR ROI HYSBYSIAD O DAN ADRAN 173, o dan adran 186, AC O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 9A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 2
RHAN 1LL+CY CYFYNGIADAU
Methu â darparu datganiad ysgrifenedigLL+C
1Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan—
(a)na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan adran 31(1) (gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig ar ddechrau contract), neu
(b)bo’r landlord yn ymwybodol fod deiliad y contract wedi newid, ac na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract o dan adran 31(2) (gofyniad i roi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract).
Cyfyngiad o chwe mis yn dilyn methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod a bennir yn adran 31LL+C
2Ni chaiff landlord sydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) roi hysbysiad yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
Methu â darparu gwybodaethLL+C
3Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).
Torri gofynion sicrwydd a blaendalLL+C
4(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano mewn cysylltiad â’r contract ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.
(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys oni bai—
(a)bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu
(b)bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.
(3)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.
(4)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).
(5)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os nad yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
Taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2)LL+C
5(1)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—
(a)taliad gwaharddedig (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) wedi ei wneud mewn perthynas â’r contract fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno, a
(b)y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
(2)Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—
(a)blaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
(b)methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
(3)Wrth benderfynu at ddibenion y paragraff hwn a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
(a)taliad rhent o dan y contract;
(b)taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.
Ystyr “hysbysiad”LL+C
6Yn yr Atodlen hon, ystyr “hysbysiad” yw hysbysiad o dan—
(a)adran 173 (hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol);
(b)adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
(c)cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol.
RHAN 2LL+CDARPARIAETH BELLACH
Darpariaeth sylfaenolLL+C
7(1)Mae Rhan 1 o’r Atodlen hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob—
(a)contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract,
(b)contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 fel un o delerau’r contract, ac
(c)contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
(2)Mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Pŵer i ddiwygio’r AtodlenLL+C
8Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.]