ATODLEN 9LL+CCONTRACTAU SAFONOL NAD YW’R CYFYNGIADAU YN ADRANNAU 175 F1... A 196 [F2(PRYD Y CANIATEIR RHOI HYSBYSIAD Y LANDLORD)] YN GYMWYS IDDYNT

Diwygiadau Testunol

Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblyguLL+C

10(1)Contract safonol—

(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’r rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a

(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.

(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2