xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adrannau 174, 174A, 195 a 195A)

[F1ATODLEN 8ALL+CCONTRACTAU SAFONOL Y GELLIR EU TERFYNU AR ÔL CYFNOD HYSBYSU O DDAU FIS O DAN ADRAN 173 NEU O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD

Diwygiadau Testunol

Contractau safonol ymddygiad gwaharddedigLL+C

1LL+CContract safonol ymddygiad gwaharddedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8A para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth oherwydd hysbysiad a roddir o dan Ran 2 o Atodlen 2LL+C

2LL+CContract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 8A para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Llety ar gyfer myfyrwyr mewn addysg uwchLL+C

3(1)Contract safonol—LL+C

(a)pan fo’r landlord yn sefydliad addysg uwch, a

(b)pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs astudio yn y sefydliad hwnnw, neu mewn sefydliad addysg uwch arall (pa un a roddir yr hawl i feddiannu at ddiben arall hefyd ai peidio).

(2)Ystyr “sefydliad addysg uwch” yw sefydliad yn y sector addysg uwch (o fewn ystyr adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 8A para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Llety â chymorthLL+C

4LL+CContract safonol â chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 8A para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

F2...LL+C

Diwygiadau Testunol

F2Atod. 8A para. 5 ac croes-bennawd wedi ei hepgor (1.12.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/803), rhlau. 1(1), 4 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 15)

F25LL+C. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Llety i bersonau digartrefLL+C

6LL+CContract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 8A para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Meddiannaeth yn rhinwedd swyddLL+C

7LL+CContract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 8A para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddluLL+C

8LL+CContract safonol—

(a)pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a

(b)pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 8A para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achubLL+C

9LL+CContract safonol—

(a)pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,

(b)pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac

(c)pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 8A para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblyguLL+C

10(1)Contract safonol—LL+C

(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a

(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.

(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 8A para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Llety dros dro: trefniadau tymor byrLL+C

11LL+CContract safonol—

(a)pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,

(b)pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,

(c)nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a

(d)nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 8A para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Llety dros dro: llety yn ystod gwaithLL+C

12(1)Contract safonol—LL+C

(a)pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,

(b)pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac

(c)pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.

(2)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 8A para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Pŵer i ddiwygio’r AtodlenLL+C

13LL+CCaiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.]

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 8A para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2