xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 01/12/2022
3(1)Mae’r landlord yn elusen a byddai’r ffaith bod deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen.
(2)Ond nid yw’r sail hon ar gael i’r landlord (“L”) oni bai, ar yr adeg y gwnaed y contract ac ar bob adeg wedi hynny, bod y person yn safle’r landlord (boed L neu berson arall) yn elusen.
(3)Yn y paragraff hwn mae i “elusen” yr un ystyr â “charity” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
4Mae’r annedd yn cynnwys nodweddion sy’n sylweddol wahanol i’r rheini a geir mewn anheddau cyffredin ac sydd wedi eu cynllunio i’w gwneud yn addas i’w meddiannu gan berson sydd ag anableddau corfforol ac sydd angen llety o fath a ddarperir gan yr annedd ac—
(a)nid oes mwyach berson o’r fath yn byw yn yr annedd, a
(b)mae ei hangen ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 8 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
5(1)Mae’r landlord yn gymdeithas dai neu’n ymddiriedolaeth dai sy’n darparu anheddau sydd ond ar gyfer eu meddiannu (boed ar eu pen eu hunain neu gydag eraill) gan bobl y mae’n anodd eu cartrefu, ac—
(a)naill ai nid oes person o’r fath yn byw yn yr annedd mwyach neu mae awdurdod tai lleol wedi cynnig yr hawl i ddeiliad y contract feddiannu annedd arall o dan gontract diogel, a
(b)mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).
(2)Mae person yn anodd ei gartrefu os yw amgylchiadau’r person hwnnw (ac eithrio ei amgylchiadau ariannol) yn ei gwneud yn arbennig o anodd iddo fodloni ei angen am gartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 8 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
6Mae’r annedd yn ffurfio rhan o grŵp o anheddau y mae’n arfer gan y landlord eu cynnig i’w meddiannu gan bersonau sydd ag anghenion arbennig ac—
(a)mae gwasanaeth cymdeithasol neu gyfleuster arbennig yn cael ei ddarparu yn agos at y grŵp o anheddau er mwyn cynorthwyo personau sydd â’r anghenion arbennig hynny,
(b)nid oes person sydd â’r anghenion arbennig hynny yn byw yn yr annedd mwyach, ac
(c)mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson sydd â’r anghenion arbennig hynny (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 8 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)